8 Gorffennaf 2015
Annwyl Carl
Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014
Ar 12 Mawrth 2015 cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu ôl-ddeddfwriaethol fer ynglŷn â Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014.
Nodaf isod ein casgliadau cychwynnol ynghyd â nifer o gwestiynau y byddem yn gwerthfawrogi eich ymateb iddynt. Mae rhai o'r cwestiynau hyn yn ymwneud â materion nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Ddeddf, ond maent yn ymwneud â’ch dull polisi ehangach tuag at reoli ceffylau.
1. Craffu ar y Mesur
1.1 Nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol i gefnogi rhoi’r Bil drwy weithdrefnau craffu'r Cynulliad ‘ar y trywydd cyflym'. Credwn fod cyfiawnhad i’r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor hwn am osgoi’r broses ddemocrataidd ddyledus ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru (a Llywodraethau Cymru yn y dyfodol) yn cyflwyno achos mwy argyhoeddiadol dros beidio â gwneud Bil yn destun gwaith craffu Cyfnod 1 yn y dyfodol. Wrth ddod i’r casgliad hwn rydym yn cydnabod mai penderfyniad eich rhagflaenydd oedd hwn.
2. Cynllun Ymgysylltu a Chyfathrebu
2.1 Roedd y cynllun gweithredu a oedd yn cyd-fynd â’r Bil yn addo 'cynllun ymgysylltu a chyfathrebu'.
2.2 A fyddech cystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am ddatblygiad y cynllun hwn a manylion ynglŷn â phryd y gallwn ddisgwyl iddo gael ei gyhoeddi?
3 Costau i drydydd partïon
3.1 A allwch chi roi manylion inni am y costau a ysgwyddwyd gan drydydd partïon yn eu gwaith o helpu awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau o dan y Ddeddf?
4. Adnoddau awdurdodau lleol
4.1 Roedd y dystiolaeth a gawsom yn awgrymu bod rhai awdurdodau lleol yn wynebu anawsterau wrth ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael iddynt oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau ac arbenigedd.
4.2 A ydych yn bwriadu darparu unrhyw adnodd canolog (o ran offer arbenigol a phobl fedrus a hyfforddiant, yn ogystal ag arian) i gynorthwyo awdurdodau lleol a'u hannog i ddefnyddio eu pwerau o dan y Ddeddf?
5. Cronfa ddata ceffylau ganolog
5.1 A fyddech cystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at sefydlu cronfa ddata ceffylau ganolog newydd a sut yr ydych wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu'r gronfa ddata?
5.2 A allwch gadarnhau bod profiad awdurdodau lleol Cymru yn cael ei ddefnyddio yn ei datblygiad a rhoi manylion ynglŷn â sut y cafodd eu profiad eu cynnwys yn y broses?
6. Microsglodynnu ceffylau - rhanddirymiadau
6.1 Lleisiodd rhai rhanddeiliaid gefnogaeth i gael gwared â’r rhanddirymiad i geffylau mewn rhai ardaloedd dynodedig aros heb basbort neu ficrosglodyn. Yn benodol, clywsom y byddai hyn yn ei gwneud yn haws i adnabod ceffylau wedi'u gadael ar dir comin. Rydym yn sylweddoli bod rhesymau da dros wneud y rhanddirymiadau pan gyflwynwyd rheoliadau adnabod ceffylau am y tro cyntaf, ond yn sgil y farn hon gan randdeiliaid gallwn weld rhywfaint o fudd mewn adolygu'r rhanddirymiadau.
6.2 Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ddeall effeithiau rhanddirymiad ac a oes gennych gynlluniau i adolygu’r rhanddirymiad hwn?
7. Casgliadau
7.1 Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym fod y ddeddfwriaeth hon yn offeryn defnyddiol i fynd i'r afael â'r mater o bori anghyfreithlon a gadael ceffylau mewn rhannau o Gymru. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol mewn sawl rhan o Gymru yn brin o'r adnoddau a'r arbenigedd i ddefnyddio eu pwerau o dan y Ddeddf hon. Rydym yn derbyn mai dim ond un rhan o'r dull o fynd i'r afael â phori anghyfreithlon a gadael ceffylau yw’r Ddeddf hon. Wedi dweud hynny, os yw’r ddeddfwriaeth hon i chwarae ei rhan yn llawn wrth fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn, credwn fod angen i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i'r adnoddau a'r arbenigedd y mae’n eu darparu i awdurdodau lleol.
7.2 Gall atebion i'r cwestiwn a ofynnwyd uchod roi sicrwydd i ni ar y pwynt olaf hwn. Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb.
Yn gywir
Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd